Llun y credir sy'n dangos y merched gafodd eu cipio gan Boko Haram
Mae angen gwneud mwy i atal y grŵp milwriaethus Islamaidd sy’n gyfrifol am gipio 200 o ferched ysgol yn Nigeria union chwe mis yn ôl, meddai gwleidyddion o Brydain a chyn arweinwyr milwrol.

Credir bod y grŵp Boko Haram, a oedd wedi cipio’r merched o ysgol yn Chibok ym mis Ebrill, bellach yn cael cefnogaeth gan y grŵp eithafol, y Wladwriaeth Islamaidd (IS), yn ôl llythyr sydd wedi cael ei gyhoeddi ym mhapur newydd yr Independent.

Mae cyn arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yr Arglwydd Ashdown ymhlith y rhai sy’n galw am ymchwiliad rhyngwladol i’r modd mae’r brawychwyr yn cael eu hariannu, a chymorth milwrol i luoedd diogelwch Nigeria yn eu hymdrechion i’w hatal.