Old Bailey
Ni fydd mam sydd wedi cyfaddef lladd ei thri phlentyn anabl cyn ceisio lladd ei hun, yn wynebu achos llofruddiaeth, clywodd llys heddiw.

Roedd Tania Clarence, 42, wedi pledio’n euog i ddynladdiad ei merch Olivia, 4 oed, a’i gefeilliaid Ben a Max, 3 oed, am nad oedd yn ei iawn bwyll – ond mae’n gwadu eu llofruddio.

Mewn gwrandawiad yn yr Old Bailey, mae’r barnwr Mr Ustus Sweeney wedi derbyn ei phle gan olygu nad fydd hi’n sefyll ei phrawf yn y Flwyddyn Newydd.

Dywedodd Zoe Johnson QC ar ran yr erlyniad bod y dystiolaeth yn dangos bod Tania Clarence wedi lladd ei thri phlentyn “am ei bod eisiau dod a’u dioddefaint i ben” ac ar y pryd “nid oedd yn gallu gweld unrhyw ffordd arall o wneud hynny.”

Ychwanegodd bod Gwasanaeth Erlyn y Goron yn derbyn bod Clarence wedi bod yn dioddef o “iselder difrifol” ar y pryd.
Nid oedd Clarence yn y llys ond bydd yn cael ei dedfrydu ar 14 Tachwedd. Mae disgwyl iddi wynebu gorchymyn i’w chadw mewn ysbyty meddwl.