Bydd rhieni yn gwario bron i £84,000 ar fagu plentyn hyd at ei ben-blwydd yn 11 oed.

Dyna ganfyddiad arolwg diweddar gan fanc Halifax.

Mae gofalu am blentyn o’i enedigaeth hyd iddo gyrraedd 11 oed wedi cyrraedd cost o bron i hanner pris tŷ cyffredin, a oedd yn £187,188 ym mis Medi.

Daw’r wybodaeth o ymchwil ymhlith 1,000 o rieni â phlant hyd at 11 oed a gynhaliwyd gan y banc.

Y glec o dalu am ofal plant sy’n cael y rhan fwyaf o’r bai am y costau drud, sydd yn £41,139.