Ian Watkins
Mae wythfed heddwas dan ymchwiliad dros y modd wnaeth yr heddlu ddelio gyda chyhuddiadau yn erbyn Ian Watkins, cyn-ganwr y Lostprophets.

Cafodd Watkins ei ddyfarnu’n euog <http://www.golwg360.com/newyddion/cymru/131690-ian-watkins-yn-dechrau-ar-gyfnod-hir-dan-glo> o droseddau rhyw yn erbyn plant y llynedd. Carcharwyd am 29 mlynedd.

Erbyn hyn mae pedwar swyddog o Heddlu De Swydd Efrog, dau o Heddlu Swydd Bedford a dau o Heddlu De Cymru yn wynebu rhybuddion camymddwyn difrifol.

Mae’r ymchwiliad yn ceisio darganfod os oedd oedi cyn rhoi Ian Watkins gerbron llys oherwydd ei statws adnabyddus a’i enwogrwydd.

“Mae tri heddwas o Heddlu De Swydd Efrog a gafodd rhybuddion camymddwyn difrifol wedi’u  cyfweld gan ymchwilwyr Comisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu,” meddai llefarydd.

“Bydd cyfweliad gyda’r pedwerydd yn cael ei gynnal yn y dyfodol agos.”

Mae’r ymchwiliad yn edrych ar gwynion am Heddlu De Swydd Efrog, sef tri adroddiad a wnaed i’r heddlu rhwng mis Mawrth a mis Mai 2012. Roedd y rhain yn cynnwys honiadau yn erbyn Watkins gyda thystiolaeth posibl.

Hefydd bydd craffu ar sut wnaeth Heddlu Swydd Bedford ddelio â gwybodaeth gan aelod o’r cyhoedd a wnaeth honiad o gam-drin plant yn erbyn Watkins yn Hydref 2012.

Mae’r heddlu yn Swydd Bedford, De Swydd Efrog ac yn Ne Cymru wedi dweud o’r dechrau y byddan nhw’n cyd-weithio gyda’r ymchwiliad.