Mae Llywodraeth Ynysoedd Prydain wedi ei chyhuddo gan Blaid Cymru o dangyllido a gwthio anghenion Cymru i’r ymylon tra eu bod yn ystyried rhoi £150 miliwn yn ychwanegol i Ogledd Iwerddon.

Yn gynharach yr wythnos hon, dywedodd y Prif Weinidog, David Cameron na fydd newidiadau i’r ffordd y mae Cymru’n cael ei chyllido, er bod adroddiadau ar yr un pryd yn sôn am ganiatáu i Ogledd Iwerddon dorri terfynau gwario neu dderbyn benthyciadau’r Trysorlys.

Yn dilyn yr adroddiadau, mae Leanne Wood wedi ysgrifennu llythyr at Ganghellor y Trysorlys yn galw am weithredu ar drefniadau cyllido i Gymru.

“Agwedd ddilornus” Llywodraeth San Steffan

Mae Leanne Wood wedi cyhuddo’r Llywodraeth Brydeinig o drin Cymru yn anffafriol.

“Mae’n cael ei dderbyn yn eang fod Cymru yn cael ei thangyllido ac y gallwn golli hyd at £8.5 biliwn erbyn diwedd y ddegawd.” Meddai Arweinydd y Blaid.

“Mae anghenion Gogledd Iwerddon yn cael eu trafod ac y mae pawb yn disgwyl ymreolaeth ariannol sylweddol i’r Alban.

“Mae Plaid Cymru yn mynnu bod Cymru’n cael yr hyn sy’n ddyledus; y buddsoddiad a wadwyd i ni ers dros genhedlaeth.

“Mae Cymru yn dioddef…llymder hanesyddol o ganlyniad i’n tangyllido a mwy o lymder ers cwymp ariannol 2007-8. All hyn ddim parhau.”