Douglas Carswell
Mae gan blaid UKIP ei Haelod Seneddol  cyntaf erioed wedi noson ddramatig neithiwr sy’n achos o bryder i’r Ceidwadwyr a Llafur.

Cynyddodd Douglas Carswell ei fwyafrif yn etholaeth Clacton wedi iddo achosi isetholiad trwy adael y Ceidwadwyr a sefyll dan faner UKIP.

“Mae yna newid mawr wedi digwydd yng ngwleidyddiaeth Prydain,” meddai Douglas Carswell.

Yn ôl arweinydd UKIP, Nigel Farage, mae’r blaid wedi “rhwygo” Llafur o’i chadarnleoedd yng ngogledd Lloegr ar ôl tolcio eu mwyafrif mewn isetholiad arall yn Heywood a Middleton yn Swydd Gaerhirfryn.

“Nid oes dim na allwn ni gyflawni pe bai UKIP yn ehangu ei hapêl i Brydain a phob un Prydeiniwr,” ychwanegodd Carswell yn Clacton.

Enillodd y sedd gyda mwyafrif o 12,404 dros yr ymgeisydd Ceidwadol, Giles Watling, gan ennill bron i 60% o’r bleidlais.

51.2% o’r boblogaeth a bleidleisiodd yn yr isetholiad. Cyfrifwyd 21,113 o bleidleisiau i Carswell gan ei roi ar y blaen yn gyfforddus.

Daeth y Tori Giles Watling yn ail gyda 8,709 o bleidleisiau. Yn drydydd oedd Llafur, yna’r Blaid Werdd, gan wthio’r Democratiaid Rhyddfrydol i lawr ac achosi iddyn nhw golli eu blaendal o £500 wedi iddyn nhw fethu denu 5% o’r bleidlais.

Agos at gipio sedd Llafur

Yn etholaeth Heywood a Middleton yn Sir Gaerhirfryn bu bron i UKIP gipio’r sedd oddi ar Llafur.

Ond daeth Liz McInnes i’r brig gyda 11,633 o bleidleisiau a 40.9% o’r fôt, a John Bickley o UKIP yn ail agos gyda 11,016 o bleidleisiau a 38.7% o’r fôt.

Yn ôl Arweinydd UKIP ei blaid ef yw’r unig ddewis credadwy i bobol sy’ wedi cael llond bol ar y Blaid Lafur yng ngogledd Lloegr.

“Yng ngogledd Lloegr, yn yr holl ddinasoedd, yr unig her i Lafur yw UKIP,” meddai Nigel Farrage, “ac os wnewch chi bleidleisio dros y Ceidwadwyr fe gewch chi [wleidyddion] Llafur yn yr holl etholaethau gogleddol yma.”