Carl Sargeant
Ni all y Bil Cynllunio gael unrhyw ddylanwad ar ffyniant yr iaith Gymraeg, yn ôl Carl Sargeant.
Dywedodd y Gweinidog sy’n gyfrifol am gynllunio wrth gylchgrawn Golwg nad oedd y system bresennol yn “niweidio” yr iaith.
Wrth gyflwyno’r Bil Cynllunio’r wythnos hon, dywedodd hefyd na ddylai “unrhyw beth” yn y Bil gyfeirio’n benodol at y Gymraeg – a hynny’n gwbl groes i ddymuniad Cymdeithas yr Iaith a Chomisiynydd y Gymraeg.
“Dw i ddim yn cydnabod o gwbl unrhyw beth sy’n awgrymu bod y system gynllunio yn niweidio’r iaith Gymraeg,” meddai Carl Sargeant sy’n credu fod TAN 20 – nodyn technegol ar sut i ystyried y Gymraeg wrth ganiatau codi tai – yn gwarchod lles yr iaith.
Mewnlifiad i’r Fro yn beth da
Yn cyfeirio at bryderon am fewnlifiad yn sgîl codi tai newydd, dywedodd Sargeant bod angen i Gymru “ddathlu’r amrywiaeth” o fewn ei chymunedau, a’u bod nhw’n “tyfu” ac yn “elwa” o gael “pobol newydd” i ardaloedd.
“Unwaith yr ydym ni’n cychwyn cau pentrefi ffwrdd ar sail darpariaeth y Gymraeg mae hynny’n beryglus i gymuned,” meddai. “Ni fyddwn i’n cefnogi’r ffaith, os nad ydych yn siaradwr Cymraeg, eich bod chi methu codi tŷ yng Nghymru.
“Ni fyddai hwnna’n rhywbeth i ni wneud a dydi e ddim yn gynorthwyol i’r iaith Gymraeg. Dw i’n sylweddoli bod pobol ddim am gytuno efo fi. Ond y ffaith amdani ydi bod ganddon ni [Llywodraeth Cymru] ymrwymiad i’r iaith Gymraeg a dw i ddim yn gweld y system gynllunio yn gallu ychwanegu unrhywbeth yn fwy i’r ffaith gan ein bod ni’n gwneud gymaint yn barod.”
‘Rhaid i’r Gymraeg fod yn y Bil Cynllunio’
Mae llefarydd cymunedau cynaliadwy Cymdeithas yr Iaith wedi taflu dŵr oed am ben haeriad Carl Sargeant nad oes angen i’r Bil Cynllunio grybwyll y Gymraeg.
“Rhaid crybwyll y Gymraeg yn y Bil nid er mwyn atal codi tai, ond er mwyn cynllunio’n fwriadus i gefnogi a chryfhau cymunedau Cymraeg eu hiaith,” meddai Toni Schiavone.
Ac mae’n wfftio honiad Carl Sargeant nad yw’r drefn gynllunio yn “niweidiol” i’r Gymraeg, gan gyfeirio at y ffaith fod nifer y cymunedau gyda thros 70% yn medru siarad yr iaith wedi cwympo o 92 yn 1991 i 39 yn 2011.
“Does dim amheuaeth bod yr holl dystiolaeth ac ystadegau o’r Cyfrifiad diwethaf yn dangos yn glir y cyswllt rhwng gor-ddatblygu a dirywiad ieithyddol.”
Mwy ar y ffrae yn rhifyn yr wythnos o gylchgrawn Golwg