Ceffylau Dylan Jones
Ceffylau o Wynedd fydd i’w gweld mewn golygfeydd o’r Rhyfel Byd Cyntaf ar fersiwn ddiweddara’r BBC o nofel ddadleuol DH Lawrence, Lady Chatterley’s Lover.
Yn y gorffennol mae Dylan Jones o Lanberis a’i geffylau wedi cydweithio gyda rhai o gynhyrchwyr ffilmiau Hollywood mwyaf y byd.
Mae ffilmiau fel Warhorse a Willow yn ogystal â rhaglenni teledu fel Merlin a Robin Hood ar CV y ceffylau, a’r prosiect diweddaraf yw addasiad y BBC o nofel Lady Chatterley’s Lover sy’n cael ei ffilmio yn ne Cymru.
“Joban ddifyr”
Dylan Jones, 37, sy’n wreiddiol o Lanberis, yw prif feistr y ceffylau. Ynghyd â dau hyfforddwr arall, bu’n hyfforddi’r anifeiliaid ar droed yr Wyddfa ers 20 mlynedd.
“Mae’n joban ddifyr. Dw i wedi tyfu hefo ceffylau, mi roedd mam yn rhedeg canolfan merlota yma’n Llanberis,” meddai wrth golwg360.
“Rydan ni’n prynu’r ceffylau yn reit ifanc a dechrau eu hyfforddi o’r diwrnod cyntaf.
“Mae’n cymryd tua phum mlynedd i’w hyfforddi yn llawn ac mi rydan ni’n gweithio hefo nhw o naw tan chwech bob diwrnod.
“Dw i wedi gorfod hyfforddi rhai i dynnu cart a rhai eraill i orwedd yn llonydd fel eu bod nhw wedi marw.”
Coleg y Drindod
Dilyn gyrfa fel actor oedd bwriad gwreiddiol Dylan Jones, ond fe wnaeth y diffyg gwaith ei orfodi i newid trywydd.
“Wnes i hyfforddi fel actor yng Ngholeg y Drindod, ond doedd yna ddim gwaith i dalu’r biliau.
“Roedd o’n beth naturiol i wneud am fy mod i wedi tyfu i fyny hefo ceffylau ac mi wnes i gymryd drosodd y busnes gan fy nhad pan oeddwn i’n 20 oed.
“Wnes i ddechrau yn darparu ceffylau i S4C ac ers hynny dw i wedi bod yn gweithio ar Warhorse, Robin Hood, Snow White and the Huntsmen a llawer mwy.”