Mae Downing Street wedi cyhoeddi prynhawn ma y bydd profion sgrinio am Ebola yn cael eu cynnal ar deithwyr sy’n cyrraedd meysydd awyr Heathrow a Gatwick a gorsafoedd Eurostar.

Fe fydd y broses sgrinio yn cael ei gyflwyno i bobl sy’n teithio o’r rhanbarthau hynny sydd wedi’u heffeithio gan gynnwys Liberia, Sierra Leone a Guinea.

Bydd y profion yn cynnwys asesiad o’r teithiau diweddar mae’r person wedi’u cymryd, pwy maen nhw wedi bod mewn cysylltiad â nhw, a’u trefniadau teithio, yn ogystal ag asesiad meddygol posib a fydd yn cael ei gynnal gan staff meddygol.

Fe fydd teithwyr hefyd yn cael cyngor ynglŷn â beth ddylen nhw ei wneud os ydy’n nhw’n cael symptomau’n ddiweddarach.

Dywedodd y Prif Swyddog Meddygol, yr Athro Sally Davies, ei fod yn briodol ystyried mesurau pellach er mwyn sicrhau bod achosion posib o Ebola yn cael eu hadnabod mor fuan â phosib yn y DU.

Daw’r cyhoeddiad yn dilyn pwysau ar weinidogion i gynnal y profion ar deithwyr mewn meysydd awyr, gorsafoedd trên, a phorthladdoedd yn y DU i atal yr haint rhag lledu.

Tramor

Mae Washington eisoes wedi cyhoeddi cynlluniau i ddechrau sgrinio am y firws mewn rhai o’i meysydd awyr yn dilyn y newyddion neithiwr bod claf yn yr Unol Daleithiau wedi marw o Ebola.

Yn y cyfamser mae cyflwr nyrs yn Sbaen, a gafodd ei heintio tra’n edrych ar ôl offeiriad gydag Ebola, wedi gwaethygu.

Mewn cyfarfod o Fanc y Byd yn Washington mae arlywyddion tri o’r gwledydd yng ngorllewin Affrica sydd wedi dioddef waethaf yn sgil yr argyfwng wedi gwneud apêl am ragor o arian, meddygon a gwlâu i fynd i’r afael ag Ebola.

“Mae ein pobl yn marw,” meddai’r Arlywydd Ernest Bai Koroma a oedd yn siarad drwy gyswllt fideo o Sierra Leone.

Bu’n disgrifio effaith dybryd y firws ar blant sydd wedi colli eu rhieni, meddygon a nyrsys sydd wedi marw ar ol cael eu heintio, a system feddygol sy’n gwegian dan y pwysau cynyddol.

Mae ysgrifennydd cyffredinol y Cenhedloedd Unedig Ban Ki-Moon wedi galw am hwb anferth mewn cymorth rhyngwladol er mwyn mynd i’r afael ag Ebola.