Ni fydd gweithwyr cyngor ac ysgolion yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon yn cynnal streic dros amodau tal ar 14 Hydref mwyach.

Roedd disgwyl i tua 1.5 miliwn o aelodau undebau Unsain, Unite a’r GMB gerdded allan o’u gwaith ddydd Iau nesaf am eu bod wedi cael codiad cyflog o 1% yn unig dros y blynyddoedd diwethaf.

Yn ôl yr undebau, mae rhai gweithwyr y sector cyhoeddus yn ennill £2,000 yn llai o dan y Llywodraeth bresennol ar gyfartaledd, tra bod hanner miliwn o weithwyr cynghorau’n ennill cyflog sy’n is na chyflog byw.

Mae’r streic wedi ei gohirio wrth i’r undebau drafod cynigion newydd sydd wedi dod i law gan Lywodraeth Prydain.

‘Cynigion newydd’

Dywedodd Brian Strutton o undeb GMB: “Mae hi wedi bod yn anodd iawn i berswadio’r llywodraeth i gytuno ar gynigion cyflog newydd i’n haelodau.

“Ond rydym erbyn hyn wedi cytuno ar gynigion newydd ac mi fyddwn ni’n eu trafod gyda’n haelodau.”