Mae dyn 73 oed wedi’i gyhuddo o lofruddio dyn 76 oed yn Ninas Powys ger Caerdydd.

Cafodd Alan Rogers, o Dai Gwarchod Fairoaks yn Ninas Powys, ei gyhuddo o lofruddio Fred Hatch, hefyd o Fairoaks.

Cafodd yr heddlu eu galw i ddigwyddiad fore ddydd Mercher yn dilyn adroddiadau o ffrae.

Cafodd Fred Hatch ei gludo i’r ysbyty lle bu farw’n ddiweddarach.

Cafodd Alan Rogers ei arestio a’i gadw yn y ddalfa cyn cael ei gyhuddo o lofruddio heddiw.

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu De Cymru mai “digwyddiad unigol” yw hwn ond eu bod nhw’n “gwerthfawrogi ei fod wedi achosi pryder i drigolion Fairoaks”.