Fe fydd rhai o weithwyr Trenau Arriva yng Ngogledd Cymru yn streicio am 24 awr yfory.

Bydd y streic yn cychwyn am hanner dydd ac yn dod i ben am hanner dydd, ddydd Sadwrn.

Ni fydd y streic yn effeithio’n ormodol ar deithiau Cymru, yn ôl Arriva, ond mae’r cwmni yn gofyn i deithwyr wneud yn siŵr nad yw eu siwrne wedi ei ganslo cyn gadael y tŷ.

Dyma’r teithiau fydd yn cael eu heffeithio:

• Dyffryn Conwy
• Arfordir Gogledd Cymru
• Caer i Fanceinion
• Caerdydd i Gaergybi
• Caer i Birmingham

Salwch

Mae’r streic yn cael ei gynnal oherwydd bod aelodau o Undeb y Gweithwyr Rheilffyrdd (RMT) yn gwrthwynebu bod dau weithiwr wedi cael eu diswyddo am eu bod wedi methu a dod i’r gwaith oherwydd salwch.

Dywedodd llefarydd ar ran Arriva Cymru: “Rhwng y ddau weithiwr, fe gymron nhw 890 o ddyddiau i ffwrdd yn sâl.

“Fel cwmni, mae’n rhaid i ni gael cydbwysedd rhwng darparu gwasanaeth dibynadwy i gwsmeriaid a sicrhau nad yw trenau’n cael eu canslo.

“Rydym yn agored i gynnal trafodaethau gyda’r undeb i ddatrys y broblem.”