Mae ffigurau a gafodd eu cyhoeddi heddiw’n dangos bod Llywodraeth Cymru wedi methu eu targedau o ran amserau aros rhwng cyfeirio cleifion a dechrau triniaeth yn yr ysbyty.
Fis Awst eleni, roedd 86% o gleifion wedi derbyn triniaeth o fewn 26 wythnos wedi iddyn nhw gael eu cyfeirio – o’i gymharu â 92.9% o gleifion yn derbyn triniaeth o fewn 18 wythnos yn Lloegr. Y targed yw 95%.
Yn ôl y ffigurau, fe fu’n rhaid i fwy nag un o bob pump o gleifion aros mwy na chwe wythnos i gael triniaeth wedi iddyn nhw gael eu cyfeirio gan eu meddygon teulu i ofal yr ysbyty.
Mae’r ffigurau’n dangos bod 30% o gleifion wedi aros mwy nag wyth wythnos i dderbyn diagnosis erbyn mis Awst.
Ymateb Llywodraeth Cymru
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Mae bron i naw o bob 10 claf yn cael eu gweld o fewn yr amser targed, tra bod yr amser aros erbyn diwedd mis Awst 2014 yn llai na 11 wythnos. Mae perfformiad ym mis Awst yn aml yn waeth na mis Gorffennaf gan fod staff a chleifion ar eu gwyliau.
“Er gwaethaf hynny, mae gweinidogion am weld perfformiad yn gwella. Fe fydd y Dirprwy Weinidog Iechyd yn cwrdd â chadeiryddion yr holl fyrddau iechyd i drafod amserau aros wrth gyfeirio cleifion am driniaeth ac agweddau eraill o’u perfformiad.”
‘Cywilydd’
Mae llefarydd iechyd y Ceidwadwyr, Darren Millar wedi beirniadu’r ffigurau, gan ddweud y dylai “Carwyn Jones ddal ei ben mewn cywilydd”.
“Mae rhestrau aros y Gwasanaeth Iechyd wedi mwy na dyblu ers iddo ddod yn Brif Weinidog a gydag un o bob saith o bobol yng Nghymru’n aros am driniaeth, does dim arwydd fod pethau’n mynd i wella’n fuan.
“Gall oedi o ran diagnosis neu driniaeth fod yn amser pryderus i gleifion a’u teuluoedd a gall aros yn rhy hir arwain at waethygu o ran iechyd, sy’n niweidio’r siawns o wella.
“Mae’n amlwg bod cleifion yng Nghymru’n talu’r pris am y record mewn toriadau a gafodd eu cyflwyno gan ei Blaid Lafur o ran cyllid iechyd, sydd wedi arwain at golli gwlâu, ysbytai’n cau a chanoli gwasanaethau hanfodol a rhai sydd wedi cael eu hisraddio.”
Ychwanegodd fod y Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol yn “wasanaeth aros cenedlaethol”.