Cyngor Gwynedd
Mae’r mwyafrif llethol o gynghorwyr Gwynedd wedi pleidleisio o blaid uno efo Cyngor Ynys Môn.
Roedd 47 o gynghorwyr wedi pleidleisio o blaid uno, a phump yn erbyn mewn cyfarfod o’r cyngor heddiw.
Ond mae Cyngor Môn eisoes wedi gwrthod y syniad o uno, gyda chynghorwyr yn dweud y byddai’n cael “effaith andwyol” ar drigolion yr ynys.
Dywedodd y Cynghorydd Dyfed Edwards, Arweinydd Cyngor Gwynedd “bod rhaid gwneud penderfyniadau anodd os ydym am osgoi sefyllfa lle mae newid yn cael ei orfodi arnom.”
Ychwanegodd: “Ni allwn anwybyddu’r toriadau ariannol enfawr sy’n ein hwynebu na chwaith dymuniad Llywodraeth Cymru i leihau nifer y cynghorau yn sylweddol yn unol ag argymhellion Adroddiad Williams.
“O ystyried hyn, fel Cyngor rydym wedi penderfynu mai’r ffordd fwyaf cyfrifol i weithredu fyddai i gytuno i archwilio pob dull allai arwain at arbedion ac a fyddai yn eu tro yn cyfyngu ar y toriadau i wasanaethau rheng flaen. Mae hyn yn cynnwys trafod y posibilrwydd o uno gyda chyngor neu gynghorau eraill os byddem yn derbyn sicrwydd ar rai materion allweddol.”
Cyn parhau ymhellach i gyflwyno cais i uno, bydd Cyngor Gwynedd yn gofyn am sicrwydd gan Lywodraeth Cymru ar nifer o faterion gan gynnwys sicrhau bod gweithredu Polisi Iaith sydd yn gadarn o blaid y Gymraeg yn allweddol ar gyfer unrhyw gyngor newydd y byddai Gwynedd yn rhan ohono i’r dyfodol; a chael sicrwydd am sefyllfa ariannol ac asedau pob partner posib er mwyn gweld pa fath o sefyllfa ariannol y byddai cyngor newydd yn ei etifeddu.
‘Ni fydd yn ateb i’r toriadau ariannol’
Dywedodd Arweinydd Cyngor Môn, y Cynghorydd Ieuan Williams: “Dydw i ddim am wneud sylw am benderfyniad Cyngor Gwynedd. Alla’i ond roi barn fy hun a fy nghyd-gynghorwyr ar Gyngor Sir Ynys Môn.
“Dwi ddim wedi fy argyhoeddi bod manteision i uno ac yn sicr ni fydd yn ateb i’r toriadau ariannol enfawr gaiff ei wynebu gan gynghorau ar hyd a lled Cymru.”
Cyngor Caerdydd
Heno fe fydd cynrychiolwyr o Gyngor Caerdydd yn cyfarfod i drafod uno hefo Cyngor Bro Morgannwg.
Mae cynghorwyr Bro Morgannwg hefyd wedi gwrthwynebu’r syniad o uno.
Mae Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus newydd Llywodraeth Cymru, Leighton Andrews yn awyddus i weld cynghorau’n uno fel rhan o argymhellion Comisiwn Williams.
Yn ôl y Comisiwn, mae angen lleihau nifer y cynghorau yng Nghymru o 22 i naill ai 10,11 neu 12.
Gallai unrhyw gynghorau cyfun newydd gael eu sefydlu erbyn 2018. Ar ôl hynny, mae’n debygol y bydd rhai cynghorau’n cael eu gorfodi i uno.