Douglas Carswell
Fe allai UKIP gamu i mewn i San Steffan am y tro cyntaf yn dilyn dau isetholiad allweddol yn Lloegr heddiw.

Cafodd isetholiad ei drefnu yn Clacton yn Swydd Essex wedi i Douglas Carswell symud o’r Ceidwadwyr i UKIP, ac mae disgwyl iddo gadw ei sedd ar ran ei blaid newydd.

Daliodd Carswell ei afael ar y sedd yn etholiad cyffredinol 2010 gyda mwyafrif o fwy na 12,000 yn 2010.

Mae disgwyl i UKIP wneud yn dda hefyd yn isetholiad Heywood a Middleton yn Swydd Gaerhirfryn.

Cafodd isetholiad ei drefnu yno yn dilyn marwolaeth yr Aelod Seneddol Llafur, Jim Dobbin oedd wedi bod yn y sedd ers 1997.

Er bod disgwyl i’r Blaid Lafur ennill yn gyffyrddus yno, mae disgwyl i John Bickley wneud yn dda ar ran UKIP, a allai niweidio’r Blaid Lafur lai na blwyddyn cyn yr etholiad cyffredinol nesaf.