Alun Ffred Jones
Mae llefarydd cyllid Plaid Cymru, Alun Ffred Jones wedi beirniadu Llywodraeth Cymru tros doriadau i gyllidebau cynghorau Cymru, gan ddweud eu bod nhw’n ymosod ar ansawdd bywyd y Cymry.

Bydd cynghorau Cymru’n derbyn £146 miliwn yn llai ar gyfer y flwyddyn nesaf.

Dywedodd Alun Ffred Jones mewn datganiad fod y toriadau’n “ergyd gadarn” i brif wasanaethau’r cynghorau ledled Cymru ac y byddai’n “cael ei deimlo ym mhob cartref a phob cymuned”.

Ychwanegodd fod “agenda tlodi creulon Llywodraeth Prydain” yn gyfrifol am y toriadau sy’n cael eu cyflwyno yn y Senedd yng Nghaerdydd.

“Mae hwn yn ymosodiad ar ein cymunedau ac yn ymosodiad ar ansawdd bywydau pobol ac mae Llywodraeth Cymru’n ei hwyluso.

“Pe bai’r toriadau hyn yn cynyddu bob blwyddyn, fe welwn ni ragor o’r gwasanaethau rydyn ni’n dibynnu arnyn nhw’n diflannu ac fe fydd mwy o swyddi’n cael eu colli.

“Mae toriadau i ganolfannau hamdden a phyllau nofio’n sicr o effeithio ar iechyd plant, pobol ifanc a’r henoed.”

Cyngor Gwynedd

Cafodd sylwadau Alun Ffred Jones eu hategu gan arweinydd Cyngor Gwynedd, Dyfed Edwards ar raglen Post Cyntaf y BBC y bore ma.

Dywedodd fod y toriadau’n golygu bod cynghorau’n mynd ati i benderfynu “be i beidio gwneud” o ran gwasanaethau.

Ond dywedodd ei fod yn disgwyl cyhoeddiad tebyg i’r un a gafodd ei wneud ddoe ynghylch cyfanswm y toriadau ledled Cymru.

“Ro’dd o fel y disgwyl. Ond do’dd o ddim yn ei wneud o’n haws i dderbyn chwaith.

“Mae o wedi dod i’r pwynt lle dan ni’n penderfynu be i beidio gwneud, ond mae’n dibynnu sut dan ni’n mynd i gwrdd â thargedau.”

Awgrymodd y byddai nifer o gynghorau’n blaenoriaethu addysg ac yn cynnig ychydig iawn o wasanaethau eraill.

“Mae o’n gyfnod ansicr iawn ac mae angen cefnogaeth Llywodraeth Cymru i symud ymlaen.”