Hinkley Point yng Ngwlad yr Haf
Mae cwmni Horizon, sy’n bwriadu adeiladu atomfa newydd ar Ynys Môn, wedi croesawu sêl bendith y Comisiwn Ewropeaidd ar gyfer atomfa newydd yn Hinkley Point yng Ngwlad yr Haf.

Yn dilyn ymchwiliad, mae’r Comisiwn wedi cymeradwyo cynlluniau’r cwmni o Ffrainc EDF Energy i adeiladu atomfa Hinkley Point C a hynny er gwaethaf gwrthwynebiad chwyrn gan grwpiau amgylcheddol.

Bydd y prosiect £16 biliwn yn dechrau cynhyrchu trydan yn 2023.

‘Hwb enfawr’

Mae Horizon ynghanol cynnal ymgynghoriad cyhoeddus o ddeg wythnos ar ei gynlluniau ar gyfer adeiladu gorsaf newydd ar Ynys Môn, Wylfa Newydd yn 2018.

Dywedodd Alan Raymant, Prif Swyddog Gweithredu Horizon: “Mae’r dyfarniad hwn yn hwb enfawr i raglen adeiladu atomfeydd niwclear Prydain.

“Mae’n dangos pa mor gadarn yw’r model y mae Llywodraeth Prydain wedi’i roi ar waith er mwyn sicrhau buddsoddiadau mewn carbon isel ac mae’n pwysleisio pa mor ddeniadol yw’r DU fel marchnad ar gyfer pŵer niwclear newydd.

“Fel datblygwr nesaf Prydain, rydyn ni’n teimlo’n hyderus iawn ar ôl clywed y penderfyniad.”

Mae Horizon ynghanol cynnal ymgynghoriad cyhoeddus o ddeg wythnos ar ei gynlluniau ar gyfer adeiladu gorsaf newydd ar Ynys Môn, Wylfa Newydd yn 2018.