Barack Obama
Mae’r Pentagon wedi dweud nad yw cyrchoedd awyr ar eu pen eu hunain yn ddigon i ddileu bygythiad y Wladwriaeth Islamaidd (IS) yn Syria.

Mae cyrchoedd eisoes wedi dechrau tros dref Kobani ond mae’r eithafwyr wedi dod o fewn trwch blewyn o gipio’r dref.

Dywedodd llefarydd ar ran y Pentagon: “Ni fydd grym o’r awyr yn ddigon ar ei ben ei hun i achub y dref honno.”

Ond ychwanegodd nad oes bwriad ar hyn o bryd i geisio caniatâd yr Arlywydd Barack Obama i fynd â milwyr i mewn i Syria ar droed.

Wrth i’r cyrchoedd bomio barhau, mae’r Pentagon wedi rhybuddio y bydd unrhyw gynnydd yn digwydd yn raddol ac yn araf.

Ychwanegodd y llefarydd fod hyfforddi lluoedd ar droed yn allweddol i geisio sicrhau eu bod nhw’n dileu bygythiad yr eithafwyr yn y wlad.

Mae disgwyl i hyd at 5,000 o filwyr o Syria gael eu hyfforddi yn y Dwyrain Canol er mwyn iddyn nhw ddychwelyd i ymladd yn Syria.

Cafodd cyrchoedd awyr eu cynnal mewn chwe lleoliad yn Kobani ddydd Mawrth ac mae’n ymddangos mai lluoedd Cwrdaidd sy’n dal i reoli yno.

Bydd Obama yn cynnal cyfarfod ddydd Mawrth nesaf yn nhalaith Maryland i drafod y sefyllfa.