Max Clifford
Fe fydd y cyn ymgynghoydd PR Max Clifford yn apelio yn erbyn ei ddedfryd heddiw.
Ym mis Mai cafodd Clifford, 71 oed, ei garcharu am wyth mlynedd ar ôl ei gael yn euog o gyfres o ymosodiadau anweddus ar ferched rhwng 1977 a 1984.
Wrth ei ddedfrydu yn Llys y Goron Southwark, dywedodd y Barnwr Anthony Leonard wrth Clifford nad oedd ei droseddau wedi dod i’r amlwg cyn hyn oherwydd ei bersonoliaeth a’i statws.