Mae gweinidogion yn dod dan bwysau cynyddol i gynnal profion am Ebola ar deithwyr mewn meysydd awyr, gorsafoedd trên, a phorthladdoedd yn y DU i atal yr haint rhag lledu.

Yn dilyn y newyddion neithiwr bod claf yn yr Unol Daleithiau wedi marw o Ebola, fe gyhoeddodd Washington gynlluniau i ddechrau sgrinio am y firws mewn rhai o’i meysydd awyr.

Yn y cyfamser mae Prydain wedi cyhoeddi y bydd 750 o staff milwrol yn cael eu hanfon i orllewin Affrica i helpu i fynd i’r afael a’r argyfwng yno.

Ond wrth i’r Ysgrifennydd Iechyd Jeremy Hunt rybuddio ei bod “yn bosib iawn” y gall rhywun gydag Ebola ddod i Brydain, cynyddu mae’r galwadau i ddechrau sgrinio mewn meysydd awyr yn y DU.

Mae’r AS Keith Vaz, cadeirydd y Pwyllgor Dethol ar Faterion Cartref hefyd wedi galw am sicrhau bod yr hyfforddiant angenrheidiol yn cael ei roi i swyddogion sy’n delio gyda mewnfudwyr.

Mae’r awdurdodau yn Sbaen yn delio gyda’r achos cyntaf o rywun yn cael eu heintio y tu allan i orllewin Affrica, ar ôl i nyrs ddal yr haint tra’n trin offeiriad fu farw o Ebola mewn ysbyty ym Madrid.