Plentyn yn cael y brechlyn ffliw chwistrell trwyn
Fe fydd brechlyn ffliw yn cael ei gyflwyno i bob plentyn pedair oed eleni, yn ogystal â’r rhai sy’n ddwy neu dair blwydd oed, a disgyblion ym mlwyddyn 7 yn yr ysgol.
Mae’n dilyn llwyddiant yr ymgyrch beilot y llynedd ar gyfer plant, lle mae’r brechlyn ffliw yn cael ei roi ar ffurf chwistrell trwyn.
Fe fydd y Gweinidog Iechyd, Mark Drakeford, yn lansio’r rhaglen imiwneiddio ffliw yng Nghymru heddiw, a fydd yn cynnig brechlyn am ddim i’r bobol sy’n fwyaf tebygol o ddal y firws.
Mae’r rhaglen wedi ei anelu’n benodol at bobol 65 oed a throsodd, pobol â chyflyrau iechyd hirdymor, menywod beichiog a phobol sy’n darparu gofal neu ddarparu cymorth cyntaf. Caiff y brechlyn ei roi fel pigiad yn y fraich.
Y llynedd, roedd dwy ran o dair (68.3%) o’r rhai 65 oed a throsodd wedi eu brechu, ond dim ond hanner (51.1%) y bobol o dan 65 oed gyda salwch tymor hir oedd wedi diogelu eu hunain.
Bob blwyddyn, mae’r brechlyn ffliw yn cael ei newid i gyd-fynd ag unrhyw fathau newydd o firws ffliw sydd o gwmpas
Bydd y rhaglen yn cael ei lansio ym meddygfa leol Mark Drakeford, sef Meddygfa Canna yng Nghaerdydd.