Nick Clegg
Mae arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol wedi galw ar aelodau’r blaid i roi cyfle i’r Llywodraeth Glymblaid yn yr etholiad cyffredinol y flwyddyn nesaf.
Wrth ymbil ar gefnogwyr y blaid, cyfaddefodd fod y Democratiaid Rhyddfrydol wedi cael ei niweidio gan ei chyfnod yn rhan o’r Llywodraeth Glymblaid.
Ond mynnodd Nick Clegg mai’r Democratiaid Rhyddfrydol yn unig all gynnig gallu economaidd a thegwch cymdeithasol fis Mai nesaf.
Yn ei araith cynhadledd olaf cyn i’r ymgyrch etholiadol ddechrau, gwnaeth Clegg gyhuddo’r Prif Weinidog David Cameron ac arweinydd y Blaid Lafur, Ed Miliband o geisio osgoi’r perygl y mae UKIP a’r SNP yn ei beri.
Dywedodd fod gwleidyddiaeth y pleidiau hynny’n “Amhrydeinig”.
Ond mynnodd na fyddai yntau’n ailadrodd rhai o’r camgymeriadau a wnaeth yn y gorffennol, sy’n cynnwys cefnu ar ei addewid na fyddai ffioedd dysgu’n cael eu cynyddu.
Ychwanegodd fod ei blaid, er gwaethaf ei gamgymeriadau personol, yn haeddu canmoliaeth am eu polisïau i gwtogi’r dreth incwm, cymorth i blant difreintiedig, gofal plant am ddim, cyfnodau hir o famolaeth a thadolaeth a buddsoddi mewn ynni gwyrdd.
Gofynnodd i’r aelodau: “Sut fyddwch chi’n ein barnu ni? Wrth yr un polisi nad oedd modd i ni ei gyflwyno neu’r polisïau di-ri y gwnaethon ni eu cyflwyno yn y Llywodraeth?”
Wrth ateb yr her ynghylch y diffyg yn y gyllideb, dywedodd y byddai ei blaid yn “benthyg llai na’r Blaid Lafur ond yn torri llai na’r Torïaid”.