Mae myfyriwr meddygaeth 21 oed ymysg pedwar dyn sydd wedi cael eu harestio ar amheuaeth o fod yn rhan o gynllun brawychiaeth Islamaidd yn Llundain.

Cafodd Tarik Hassane, sy’n byw ger Ladbroke Grove yn y brifddinas, ei arestio ynghyd a thri dyn arall fore ddoe yn dilyn cyrch gan yr heddlu.

Credir fod o leiaf un o’r troseddwyr dan amheuaeth wedi teithio i Syria ac mae’r heddlu yn ymchwilio i gysylltiadau gyda’r Wladwriaeth Islamaidd (IS) – y grŵp eithafol sy’n gyfrifol am ddienyddio’r gyrrwr tacsi Alan Henning.

Mae’r pedwar dyn rhwng 20 ac 21 oed ac mae’r heddlu yn credu eu bod nhw ynghanol cynllwynio “ymgyrch sylweddol”.