Ysbyty Glan Clwyd
Mae Cyngor Iechyd Cymuned Gogledd Cymru wedi dweud bod yr honiadau am ofal cleifion mewn uned iechyd meddwl yn Ysbyty Glan Clwyd yn “ofidus iawn”.
Cafodd ymchwiliad ei gyhoeddi i safon y gofal yn uned iechyd meddwl Tawel Fan yn yr ysbyty ym Modelwyddan.
Cafodd y ward, sy’n trin cleifion oedrannus â dementia ac sy’n rhan o uned seiciatrig Ablett, ei chau ym mis Rhagfyr 2013 pan gafodd yr honiadau eu gwneud yn wreiddiol. Cafodd nifer o staff Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr eu gwahardd o’u gwaith bryd hynny.
Yn dilyn cyfarfod o’r Cyngor Iechyd Cymuned, dywedodd y Prif Swyddog, Geoff Ryall-Harvey fod “y newyddion yma’n ofidus iawn”, gan ychwanegu ei fod yn croesawu’r ffaith fod Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr “wedi bod yn agored”.
Ychwanegodd: “Mae’r bwrdd iechyd wedi dangos yn glir ei fod yn cymryd y camau angenrheidiol i geisio adfer y diffyg hyder ymddangosol gan rai yn y gwasanaethau iechyd yng ngogledd Cymru.
“Mae Gwasanaeth Cwynion ac Eiriolaeth CIC yn barod i helpu cleifion a’u teuluoedd sydd am fynd â’u pryderon drwy Weithdrefn Gwynion ffurfiol y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.”
Cafodd sylwadau Geoff Ryall-Harvey eu hategu gan Gadeirydd Cyngor Iechyd Cymuned Gogledd Cymru, Gordon Donaldson.
Dywedodd fod y “Bwrdd Iechyd yn mynd drwy’r broses angenrheidiol i fynd i’r afael â materion yn ddiymdroi”.
Ychwanegodd fod “diogelu cleifion bregus yn ganolog i’n rhaglen waith”.