Mae Un Llais Cymru, sy’n cynrychioli cynghorau tref a chymunedau’r wlad, wedi beirniadu’r Grid Cenedlaethol am beidio ymgynghori’n ddigon “agored”.

Yng nghyfarfod blynyddol y mudiad yn Llanfair ym Muallt, cyfeiriwyd at achos diweddar lle benderfynodd y Grid Cenedlaethol i osod coridor o beilonau newydd yng Ngwynedd – er bod dros 90% o’r bobol wnaeth gymryd rhan mewn ymgynghoriad yn anghytuno a’r opsiwn.

Esboniodd Hywel Williams AS, Cadeirydd Grŵp Gwrth-Peilon Gogledd Cymru: “Roedd 92% yn anghytuno gyda’r opsiwn o osod peilonau ar draws Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol, Afon Menai, Gwynedd a’r Parc Cenedlaethol, gyda ‘r Grid yn cyfaddef hynny yn eu hadborth.

“Fodd bynnag, mae’r Grid wedi anwybyddu’r adborth sylweddol hwn ac wedi dod i’r casgliad canlynol: ‘Ein bwriad presennol yw cael llinell uwchben newydd rhwng Wylfa a Phentir’.

“Mae’r Grid wedi diystyru’r broses ymgynghorol ac wedi diystyru democratiaeth leol felly dydw i ddim yn synnu o gwbl bod cynghorwyr lleol yn cael cefnogaeth eu cyfoedion Cymreig yng nghyfarfod cenedlaethol Un Llais Cymru.”

Pryderon

Ychwanegodd Sian Gwenllian, sy’n aelod o Gyngor Cymuned Felinheli a gyflwynodd y cynnig: “Mae’n arwyddocaol bod ein cyfoedion ledled Cymru yn cydnabod ein pryder am arferion ymgynghori ddiffygiol y Grid Cenedlaethol.

“Rydym yn gweld trafodaethau yn Ewrop am Supergrid, o’r Alban i Gymru darperir cysylltiad tanfor, ond eto yng Nghymru nid oes ewyllys gwleidyddol i gymryd golwg strategol a mynd i’r afael â’r costau gwirioneddol o’r cynigion peilon tameidiog i’n heconomi.

“Mae’r Grid yn anwybyddu’r gostyngiad yng ngwerth eiddo a’r effaith ar ein hasedau amgylcheddol a thwristiaeth.

Yn y cyfarfod, penderfynwyd bod Un Llais Cymru am alw ar y Grid Cenedlaethol i sicrhau:

• bod ei arfer ymgynghori yn agored
• yr ymgynghorir ar yr holl opsiynau trosglwyddo gan gynnwys y cyfanswm y costau ar gyfer pob opsiwn (uniongyrchol ac anuniongyrchol) wrth ystyried cynlluniau llwybr trosglwyddo.

‘Gwerth am arian’

Dywedodd llefarydd ar ran y Grid Cenedlaethol wrth golwg360:
“Rydym yn gwybod y byddai’n well gan bobol ddewis o dan y môr. Ond nid oes yr un atomfa yn unrhyw le yn y byd sydd wedi’i chysylltu mewn unrhyw fodd â cheblau HDVC (Cerrynt Uniongyrchol Foltedd Uchel) o dan y môr yn unig.

“Mae’n rhaid i unrhyw gysylltiadau ar gyfer generaduron niwclear gael profion ychwanegol gan awdurdodau diogelwch niwclear hefyd, ac mae unrhyw nam yn golygu bod gofyn codi cebl o wely’r môr, a all arwain at gysylltiad anweithredol am hyd at chwe mis.

“Mae atgyfnerthiad o dan y môr yn ddewis ychydig yn ddrutach hefyd ac mae dyletswydd arnom i sicrhau gwerth am arian i ddefnyddwyr ynni.

“Rydym yn gwybod bod ansicrwydd yn achosi rhwystredigaeth i bobol, ond mae ein prosiect yng Ngogledd Cymru’n un hir a chymhleth, ac rydym am wneud yn siŵr ein bod yn bwrw ymlaen â’r dewis mwyaf priodol yn y pen draw.”