Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a Grŵp Cefnogaeth Gymunedol Penmaenmawr wedi penderfynu cydweithio er mwyn sefydlu’r llyfrgell gymunedol gyntaf o’i math yng Nghymru.

Bydd y cyngor yn parhau i ddarparu gwasanaethau llyfrgell craidd – megis amser staff, llyfrau a chyfrifiaduron personol – ond rŵan bydd gwasanaethau a chyfleusterau eraill yn cael eu cynnig gan Grŵp Cefnogaeth Gymunedol Penmaenmawr.

Mae’n rhan o brosiect i i foderneiddio llyfrgelloedd y sir a “darparu gwasanaeth cynaliadwy ar gyfer y dyfodol”, yn ôl y cyngor.

Daw ar adeg pan mae llyfrgelloedd ledled Cymru yn cau oherwydd diffyg cyllid i wasanaethau cyhoeddus.

Gwaith Caled

“Mae Grŵp Cefnogaeth Gymunedol Penmaenmawr wedi gweithio’n galed iawn i gyrraedd y cam yma, ac mae’r hyn y maen nhw wedi ei gyflawni yn mynd i fod o fudd i lyfrgelloedd cymunedol eraill yng Nghonwy yn ogystal â bod yn fodel ar gyfer llyfrgelloedd eraill yng Nghymru,” meddai Phil Edwards, Aelod Cabinet Cymunedau Conwy.

Mae adeilad y llyfrgell wedi ei gymryd drosodd yn swyddogol gan Grŵp Cefnogaeth Gymunedol Penmaenmawr ar brydles 25 mlynedd.

Dywedodd David Wyke, Cadeirydd Grŵp Cefnogaeth Gymunedol Penmaenmawr:”Rhyngom ni, rydym ni wedi sicrhau ased gwerthfawr ar gyfer Penmaenmawr a’r ardal gyfagos, gan gadw’r gwasanaeth llyfrgell ac agor yr adeilad ar gyfer y gymuned ehangach.”