Mae angen gwneud gwersi Mathemateg a Saesneg yn orfodol i ddisgyblion Cymru sy’n bwriadu aros mewn addysg neu hyfforddiant nes eu bod nhw’n 18 oed, yn ôl y corff busnes CBI Cymru.

Mewn adroddiad sy’n cael ei gyhoeddi heddiw, mae’r corff hefyd yn dweud bod angen i’r system addysg roi mwy o bwyslais ar ofynion busnesau, ac y dylai cymwysterau Lefel A gynnwys mwy o sgiliau galwedigaethol.

Gwella perfformiad y system addysg ac economi Cymru yw bwriad argymhellion CBI Cymru, sydd wedi cael ei groesawu gan undeb prifathrawon Cymru.

Mae’r Gweinidog Addysg Huw Lewis wedi ymateb i’r adroddiad trwy ddweud bod gwella safon addysg a darparu pobol ifanc hefo’r “sgiliau maen nhw angen i lwyddo” wrth galon gwaith y Llywodraeth ar hyn o bryd.

‘Neges anghywir’

Dywedodd Cyfarwyddwr CBI Cymru, Emma Watkins, fod Cymru’n rhoi gormod o bwyslais ar dablau addysg ryngwladol a bod hynny’n “rhoi’r neges anghywir” i blant:

“Dylai’r pwyslais fod ar y cyfleoedd i bobol ifanc ar ôl iddyn nhw adael addysg, a bod gwella yn y tablau rhyngwladol yn rhywbeth sy’n digwydd fel sgil-effaith i welliannau ehangach,” meddai.

“Gall dod i gysylltiad â chyflogwyr tra mewn addysg ysbrydoli pobol ifanc a’u tywys ar y llwybr cywir – dylai’r Llywodraeth wneud hyn yn fwy o flaenoriaeth, ac mae’n siomedig na chafodd hyn ei bwysleisio yng nghynllun Cymwys am Oes.”

Ychwanegodd Cyfarwyddwr undeb NAHT Cymru, Dr Chris Howard, y dylai Llywodraeth Cymru “edrych yn ofalus iawn” ar yr adroddiad pan maen nhw’n ystyried diwygio’r cwricwlwm.

‘Ar y trywydd cywir’

Mae llefarydd ar ran y Gweinidog Addysg, Huw Lewis, wedi dweud bod y Llywodraeth ynghanol proses o “ddatblygu’r cwricwlwm ar gyfer yr 21ain ganrif”: “Rydym yn gweithio’n galed i wella safon addysg yng Nghrymu a’n uchelgais yw darparu pobol ifanc hefo’r sgiliau y maen nhw angen i lwyddo yn y gweithlu.

“Mae’r gwelliant ym mherfformiad TGAU a Lefel A a llwyddiant ein cynllun prentisiaeth yn dangos ein bod ar y trywydd cywir.”