Mae dyn 22 oed gafodd ei arestio ddoe yn dilyn marwolaeth babi dau fis oed o Gei Connah yn Sir Flint wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth.
Cafodd y babi ei gludo i Ysbyty Duges Caer ar 2 Hydref a’i symud i Ysbyty Alder Hey yn Lerpwl lle bu farw ddydd Sadwrn, 4 Hydref.
Yn dilyn y farwolaeth, cysylltodd swyddogion iechyd a’r heddlu ac mae ymchwiliad yn cael ei gynnal ar y cyd rhwng Heddlu Gogledd Cymru ac asiantaethau eraill.
Dywed yr heddlu bod y dyn wedi’i ryddhau ar fechnïaeth tra bod yr ymchwiliad yn parhau.