Nick Clegg
Mae aelodau o’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi pleidleisio yn erbyn cynnig eu harweinydd, Nick Clegg, i ddiwygio polisi’r blaid ar ehangu meysydd awyr yn ne Lloegr.
Roedd Nick Clegg wedi gwneud tro pedol gan ddweud ei fod yn cefnogi ehangu maes awyr Gatwick a Stansted, er bod polisi’r blaid yn dweud na ddylid ehangu’r un maes awyr ym Mhrydain.
Yng nghynhadledd y blaid yng Nglasgow fe wnaeth yr aelodau wrthod y cynnig, gyda rhai’n lleisio pryderon am yr effaith byddai datblygiad o’r fath yn ei gael ar yr amgylchedd.
Mae’r Comisiwn Meysydd Awyr wedi argymell ymestyn maes awyr Heathrow yn Llundain ac ychwanegu llain lanio ym maes awyr Gatwick yng Ngorllewin Sussex erbyn 2030.
Mae’r Ceidwadwyr a’r Blaid Lafur yn debygol o gefnogi’r prosiect.