Shrien Dewani gyda'i wraig Anni
Mae dyn o Brydain yn sefyll ei brawf yn Ne Affrica heddiw ar gyhuddiad o lofruddio ei wraig tra ar eu mis mel.
Ar ddiwrnod cyntaf yr achos, mae Shrien Dewani, 34, wedi pledio’n ddi-euog i gyhuddiad o gynllwynio i ladd ei wraig, Anni, yn ystod eu gwyliau yn Cape Town ym mis Tachwedd 2010.
Mae’r miliwnydd o Weston-on-Trym ger Bryste wedi gwadu talu tri dyn i ladd Anni yn dilyn eu priodas yn Mumbai.
Cafodd Dewani ei estraddodi o’r DU i sefyll ei brawf yn Ne Affrica.
Fe fu’n cael triniaeth am rai misoedd mewn ysbyty iechyd meddwl ym Mhrydain cyn cael ei estraddodi.
Mae’r erlyniad yn dadlau bod Dewani wedi cynllwynio gyda Zola Tongo, Mziwamadoda Qwabe a Xolile Mngeni i ladd ei wraig.
Mae’r tri eisoes wedi’u dedfrydu i garchar mewn cysylltiad â’r llofruddiaeth.
Mae Dewani yn honni bod ef a’i wraig wedi cael eu cipio gan ddynion arfog wrth iddyn nhw deithio yn Cape Town mewn tacsi.
Cafodd Dewani ei ryddhau’n ddianaf ond cafwyd hyd i gorff ei wraig yn y car y diwrnod canlynol. Roedd wedi cael ei saethu.
Mae disgwyl i’r achos bara am ddeufis.