Carwyn Jones
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi awgrymu y dylai Carwyn Jones ymddiswyddo fel Prif Weinidog Cymru os nad yw’r Gymraeg yn rhan o’r Bil Cynllunio newydd.
Wrth i Lywodraeth Cymru baratoi i gyflwyno’r Bil heddiw, dywedodd cadeirydd newydd y mudiad iaith Jamie Bevan y byddai Carwyn Jones yn “torri addewid” os nad oedd y Gymraeg yn cael ei chynnwys.
Mae ymgyrchwyr iaith wedi bod yn galw ar y Llywodraeth i gynnwys y Gymraeg yn y Bil, gan y byddai hynny’n golygu fod yn rhaid i unrhyw brosiectau newydd ystyried yr effaith ieithyddol ar yr ardal.
Dywedodd Carwyn Jones y byddai’n ystyried ‘pob cam ymarferol ar gyfer atgyfnerthu’r Gymraeg o fewn y system gynllunio’, ar ôl i Gymdeithas yr Iaith godi pryderon pan gyhoeddwyd y ddeddfwriaeth ddrafft ym mis Chwefror eleni.
Pryder yr ymgyrchwyr iaith yw bod y drefn gynllunio bresennol yn rhannol gyfrifol am y cwymp yn nifer siaradwyr yr iaith a welwyd yn y Cyfrifiad diwethaf.
‘Ystyried ei sefyllfa’
“Byddwn ni’n codi cwestiynau am Carwyn Jones os nad oes sôn am y Gymraeg yn y Bil, bydd rhaid i ni ofyn iddo ystyried ei sefyllfa,” meddai cadeirydd newydd Cymdeithas yr Iaith, Jamie Bevan.
“Byddai’n rhyfedd pe bai’n wir, o ystyried ei addewidion, yn enwedig yr addewid clir yn ei ddogfen bolisi ddiweddar ‘Bwrw Mlaen’.
“Os yw e’n torri ei addewid ac yn anwybyddu cyngor Comisiynydd y Gymraeg, ymddiswyddo fydd yr unig ddewis anrhydeddus sydd ganddo fe.”
Dileu targedau tai
Fe gododd y pryderon hyn yn rali flynyddol Cymdeithas yr Iaith, a gynhaliwyd ym Mhwllheli dros y penwythnos.
Ac fe awgrymodd Jamie Bevan mai un o’r prif broblemau gyda’r drefn gynllunio bresennol oedd y targedau tai.
“Mae angen i’r Bil ddileu’r targedau tai cenedlaethol ac, yn lle hynny, seilio’r system ar anghenion lleol, yn ogystal ag asesu effaith datblygiadau ar y Gymraeg a rhoi’r hawl i gynghorwyr ganiatáu neu wrthod ceisiadau ar sail eu heffaith iaith.
“Mae llawer o bobl yn pryderu am or-ddatblygu a datblygiadau anaddas mewn nifer o ardaloedd ledled Cymru – o ddatblygiadau tai diangen i’r M4 newydd – ac effaith hynny ar yr amgylchedd, ar y Gymraeg, ac ar lefelau tlodi.
“Mae gan Lywodraeth Cymru gyfle i baratoi deddfwriaeth i sicrhau datblygiadau cynaliadwy – a chaniatáu’r math iawn o ddatblygiadau lle mae eu gwir angen ar gymunedau.”