Madeleine McCann
Mae dynes a gafodd ei chyhuddo o roi negeseuon sarhaus ar y we am rieni Madeleine McCann wedi cael ei darganfod yn farw mewn gwesty.

Yn ôl adroddiadau cafodd Brenda Leyland, 63, ei hadnabod fel un o’r rhai oedd yn postio’r negeseuon ar Twitter ynglyn a Kate a Gerry McCann, yn dilyn diflaniad eu merch tra roedd y teulu ar wyliau ym Mhortiwgal yn 2007.

Cafodd Brenda Leyland ei darganfod yn farw ddyddiau’n unig ar ôl i ohebydd Sky News, Martin Brunt, ddatgelu ei bod hi yn un o’r bobl oedd y tu ôl i ymgyrch ar-lein yn erbyn y cwpl.

Dywedodd yr heddlu eu bod nhw wedi eu galw i westy am 1.42yp ddydd Sadwrn yn dilyn adroddiadau bod corff dynes wedi’i ddarganfod mewn ystafell wely mewn gwesty yn Enderby, Caerhirfryn.

Nid ydyn nhw’n trin ei marwolaeth fel un amheus.