Mae dyn 51 oed wedi cael ei gyhuddo o saethu plismon.
Fe fydd Michael Olsen yn ymddangos gerbron y llys fory wedi’i gyhuddo o achosi anafiadau difrifol, bygwth lladd, bod ag arf yn ei feddiant gyda’r bwriad o beryglu bywyd, bod a bwledi yn ei feddiant, ac o yrru’n beryglus.
Fe gafodd ei arestio yn dilyn digwyddia dyn Welling, de-ddwyrain Llundian, nos Wener.
Fe gafodd yr heddlu eu galw yn dilyn adroddiadau o gar mewn gwrthdrawiad gyda nifer o gerbydau eraill, cyn taro postyn lamp.
Cafodd un o’r plismyn ei saethu yn ei law.