Mae heddlu arfog wedi mynd ben-ben gyda phrotestwyr yn Hong Kong, ac mae yna ofn gwirioneddol ynglyn ag effaith defnyddio plismyn i symud protestwyr o blaid democratiaeth oddi ar y strydoedd.

Fe fu yna dipyn o gwffio dros nos yn ardal Mong Kok yn Kowloon dros y penwythnos.

Mae’r heddlu’n dweud fod y dorf o brotestwyr wedi bod yn pryfocio swyddogion, tra bod myfyrwyr yn cyhuddo’r heddlu o ymosod ar wrthdystwyr gyda’r bwriad o’u dychryn ymaith.

Mae myfyrwyr yn mynd cyn belled a honni fod yr heddlu’n cydweithio gyda gangiau treisgar er mwyn ymosod ar y stiwdants, ond mae llywodraeth Hong Kong yn gwadu hynny’n llwyr.

Fe fu Prif Weithredwr Hong Kong ar deledu neithiwr yn annog pawb i fynd gartre’, gan ddweud fod ffyrdd allweddol yn cael eu rhwystro gan brotestwyr, a bod angen cael trefn cyn oriau brys dydd Llun.