Nicola Sturgeon
Fe ddaw yr Alban yn wlad annibynnol – a mater o pryd, yn hytrach nag os – ydi hynny, meddai dirprwy arweinydd plaid yr SNP.

Mae Nicola Sturgeon yn dweud y bydd datganoli pwerau ariannol, economaidd a lles i Hollyrood yn rhoi blas i bobol yr Alban o sut beth fyddai bod yn annibynnol.

Ond, os bydd llywodraeth San Steffan yn datganoli’r pwerau hynny, meddai Sturgeon, fe allai’r “awyr gau i mewn” cyn cynnal refferendwm arall ar annibyniaeth.

“Does dim troi’n ol,” meddai Nicola Sturgeon. “Dim ots faint y mae pleidiau unolaethol San Steffan yn dymuno hynny. Ond fedran nhw ddim ein rhoi ni yn ein holau mewn bocs datganoledig.

“Dydi’r gair ’datganoli’ bellach ddim yn addas, oherwydd mae’n disgrifio proses o drosglwyddo yn ofalus set o bwerau sydd wedi’u geirio’n ofalus i bobol sy’n ofni siarad allan.

“Ond mae’r Alban bellach wedi’i thanio’n wleidyddol,” meddai Nicola Sturgeon, “ac mae ganddi fwy o allu i sefyll i fyny dros ei hawliau nag a fuodd erioed yn y cyfnod democrataidd.”