Alice Gross
Mae’r heddlu sy’n chwilio am Arnis Zalkalns o Latfia – sy’n cael ei amau o lofruddio’r ferch ysgol Alice Gross – wedi dod o hyd i gorff dyn mewn coedlan yng ngorllewin Llundain.

Fe ddiflanodd Alice Gross, 14 oed, o Hanwell yng ngorllewin Llundain ar 28 Awst ac fe gadarnhaodd yr heddlu ddydd Mercher bod ei chorff wedi’i ddarganfod yn Afon Brent, ger y safle lle cafodd ei gweld y tro diwethaf.

Roedd Arnis Zalkalns wedi cael ei weld yn dilyn Alice ar hyd llwybr Camlas y Grand Union ar ei feic. Nid oedd Zalkalns, a lofruddiodd ei wraig yn Latfia, wedi cael ei weld ers 3 Medi.

Dywed Heddlu Scotland Yard bod corff dyn wedi cael ei ddarganfod mewn coedlan yn Boston Manor Park yng ngorllewin Llundain.

Credir bod Zalkalns wedi dod i’r DU yn 2007 ond mae’n debyg nad oedd gan yr awdurdodau gofnod o’i gefndir troseddol.

Mae David Cameron wedi dweud y bydd yn ymchwilio “i holl amgylchiadau’r achos” yn ymwneud a llofruddiaeth Alice Gross.