Mae merch fach chwe mis oed wedi marw ar ôl ymosodiad gan gi mewn tŷ.

Roedd y berthynas oedd yn edrych ar ôl y babi hefyd wedi cael ei brathu wrth iddi geisio achub y ferch fach.

Cafodd yr heddlu a pharafeddygon eu galw i’r tŷ yn Daventry, Sir Northampton tua 10.30yh neithiwr.

Cafodd y babi ei chludo i Ysbyty Cyffredinol Northampton ond roedd eisoes wedi marw, meddai’r heddlu.

Bu’n rhaid difa’r ci ar y safle.

Dywed Heddlu Sir Northampton nad ydyn nhw’n gallu cadarnhau beth oedd brid y ci ar hyn o bryd.

Ond fe fydd arbenigwyr yn cynnal profion wythnos nesaf i geisio darganfod yn union pa fath o gi a ymosododd ar y babi.

‘Trasig’

Dywedodd y Ditectif Sarsiant Gary Baker sy’n arwain yr ymchwiliad: “Mae hyn yn ddigwyddiad trasig ac mae ein meddyliau gyda’r teulu sydd wedi torri eu calonnau yn dilyn y digwyddiad neithiwr.

“Mae digwyddiadau fel hyn yn hynod o brin yn y wlad hon, ond ni fydd hynny yn fawr o gysur i’r teulu sydd wedi colli plentyn mor ifanc.”