Cafodd Heddlu’r Gogledd eu galw’r bore ma ar ôl i ddynes ddringo ar do adeilad yn Wrecsam.
Roedd ’na bryder am ddiogelwch y ddynes ar ôl iddi ddringo ar do’r adeilad ar Ffordd Wrecsam yn Rhostyllen tua 11 y bore ma.
Er mwyn sicrhau diogelwch y ddynes a’r cyhoedd cafodd Ffordd Wrecsam ei chau wrth i’r gwasanaethau brys, gan gynnwys swyddog arbenigol, geisio siarad gyda’r ddynes.
Fe lwyddodd Gwasanaeth Tan ac Achub Gogledd Cymru i ddod a’r ddynes i lawr o’r to yn ddiogel a chafodd ei chludo i Ysbyty Maelor Wrecsam.
Credir bod y ddynes yn ei 20au.
Mae’r ffordd bellach wedi ail-agor.
Mae’r Uwch Arolygydd Dave Roome wedi diolch i’r cyhoedd a gyrwyr am eu hamynedd.