Mae protestwyr sy’n gwrthwynebu ymosodiadau gan awyrennau Prydain ar safleoedd IS yn Irac wedi bod yn gorymdeithio yn Llundain heddiw.
Gan gario baneri sy’n dweud “stopiwch fomio Irac” a “peidiwch ag ymosod ar Syria,” mae’r protestwyr wedi bod yn lleisio barn ynglŷn â’r ymosodiadau.
Dywedodd Francis O’Neill, 36, o Rydychen: “Rwy’n credu ei fod yn hollol wallgof.”
Gan gyfeirio at lofruddiaeth y gweithiwr dyngarol o Brydain, Alan Henning, gan eithafwyr IS, dywedodd Francis O’Neill fod ganddo “pob cydymdeimlad” gyda’i deulu ond nad gollwng bomiau oedd yr ateb.
Dywedodd Francis O’Neill bod gweithredoedd Prydain “yr un mor farbaraidd” ar bobl Irac ond bod pobl ym Mhrydain yn teimlo “pellter” oddi wrth yr hyn sy’n digwydd.
“Os ydach chi’n gweld rhywun yn cael eu dienyddio neu’n cael eu taro gan daflegryn… nid yw’n gwneud unrhyw wahaniaeth,” meddai.
Fe ddechreuodd awyrennau’r Awyrlu dargedu safleoedd IS yn Irac wythnos yn ôl ac mae ’na alwadau cynyddol i ymestyn gweithgareddau milwrol Prydain yn Syria.
Dywedodd Josh Blakely, 35, o Berkshire: “Nid yw’r rhyfel yma yn fy enw i. Mae yn enwau’r ASau. Os ydan ni am fynd i ryfel yna dylai’r wlad gyfan gael yr hawl i bleidleisio.”
Ychwanegodd Mark Thomas, 46, o Lundain: “Nid wy’n ffan o ISIS ond mae Prydain ac America wedi bod yn rhan o’r rhyfel yn Irac ers born i 25 mlynedd.
“Sut yn y byd mae pobl yn meddwl bod rhagor o fomio yn mynd i greu heddwch a sefydlogrwydd?”
Mae’n pryderu hefyd, meddai, y bydd gweithgareddau Prydain yn Irac yn arwain at anfon milwyr ar y tir.
Cafodd y brotest ei threfnu gan Stop the War Coalition a bydd yn dod i ben y tu allan i Downing Street.