Y gweithiwr dyngarol Alan Henning
Fe fydd y DU yn “defnyddio pob adnodd sydd gennym” i chwilio am y brawychwyr fu’n gyfrifol am lofruddio’r gweithiwr dyngarol Alan Henning, meddai David Cameron.
Wrth siarad ar ôl cwrdd â swyddogion diogelwch y bore ma, dywedodd y Prif Weinidog bod llofruddiaeth “dyn heddychlon, clên ac addfwyn” yn “gwbl ffiaidd” ac yn dangos pa mor farbaraidd yw’r grŵp eithafol IS.
Cafodd fideo yn dangos llofruddiaeth Alan Henning, 47 oed, ei rhoi ar y rhyngrwyd gan y grŵp nos Wener.
Cafodd y cyn-yrrwr tacsi o Salford ei gipio gan IS ym mis Rhagfyr.
Dywedodd gweddw Alan Henning y prynhawn ma bod ei ffrindiau a’i deulu wedi torri eu calonnau o glywed “y newyddion yr oeddan ni’n gobeithio na fyddwn ni byth yn ei glywed.”
Mae Barbara Henning wedi diolch i bawb fu’n ymgyrchu i geisio rhyddhau’r gweithiwr dyngarol ond mae wedi apelio am breifatrwydd.
Cafodd Alan Henning ei ladd er gwaethaf apêl gan ei deulu a ffigurau Mwslimaidd dylanwadol, a rybuddiodd yr eithafwyr eu bod yn gweithredu’n groes i Islam.
Mae’r llofruddiaeth ddiweddaraf gan y grŵp eithafol wedi ennyn beirniadaeth ryngwladol.
‘Anfaddeuol’
“Roedd llofruddiaeth Alan Henning yn hollol ffiaidd,” meddai David Cameron yn dilyn y trafodaethau yn Chequers.
“Mae’n hollol anfaddeuol.
“Fel gwlad, mae’n rhaid i ni wneud popeth y gallwn i orchfygu’r sefydliad yma yn y rhanbarth, ond hefyd ei orchfygu adref. Mae’n rhaid i ni wneud popeth y gallwn ni i chwilio am y rhai oedd yn gyfrifol am hyn.”
Pan ofynnwyd i David Cameron pa gamau fyddai’n cael eu cymryd, gyda galwadau i anfon lluoedd arbennig i chwilio am y rhai oedd yn gyfrifol, dywedodd y byddai’n defnyddio “yr holl adnoddau sydd gennym ni er mwyn ceisio dod o hyd i’r gwystlon, a cheisio eu helpu, a helpu eu teuluoedd, a gwneud popeth yn ein gallu i orchfygu’r sefydliad yma.”
Fe ddechreuodd awyrennau’r Awyrlu dargedu safleoedd IS yn Irac wythnos yn ôl a dywedodd David Cameron ddoe y byddai dwy awyren Tornado arall yn cael eu hanfon yno, gan ddod a’r cyfanswm i wyth.
Mae’n wynebu galwadau cynyddol i ymestyn gweithgareddau milwrol Prydain yn Syria ond dywedodd y byddai’n ceisio cael cefnogaeth y Senedd cyn gwneud hynny.
Peter Kassig
Yn y fideo, mae gwystl arall o’r Unol Daleithiau, Peter Kassig, hefyd yn cael ei weld gyda’r rhybudd mai ef fydd y nesaf i gael ei lofruddio.
Alan Henning yw’r ail wystl o’r DU i gael ei lofruddio gan IS ar ôl i’r gweithiwr dyngarol David Haines gael ei ladd fis diwethaf.
Yn y fideo mae’r llofrudd yn siarad gydag acen Brydeinig a chredir mai ef hefyd oedd yn gyfrifol am y llofruddiaethau eraill.
Cafodd dau newyddiadurwr o America, James Foley a Steven Sotloff, hefyd eu llofruddio gan y grŵp eithafol yn ystod yr wythnosau diwethaf.