Leanne Wood
Mae arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood wedi dweud fod y cyhoeddiad y byddai’r Alban wedi ei heithrio petai Llywodraeth San Steffan yn diddymu’r Ddeddf Hawliau Dynol yn y dyfodol, yn dangos yr angen am ddatganoli cyfiawnder troseddol i Gymru.
Mae Senedd yr Alban wedi condemnio cynlluniau’r Ceidwadwyr i ddiddymu’r Ddeddf Hawliau Dynol petai’n ennill yr etholiad cyffredinol nesaf.
Fe fyddai’n rhaid i’r Senedd yn Holyrood gymeradwyo’r cynlluniau ond mae Aelodau Seneddol yr Alban yn cael eu hannog i atal y cynlluniau.
Ddoe, bu’r Ysgrifennydd Cyfiawnder Chris Grayling yn amlinellu cynlluniau i ddiddymu’r ddeddf a chyflwyno Mesur Iawnderau Prydeinig yn ei lle. Fe fyddai hynny’n golygu na fyddai’n rhaid i farnwyr yn y DU ystyried dyfarniadau’r Llys Iawnderau Dynol yn Strasbwrg. Gan y Goruchaf Lys yn y DU fyddai’r gair olaf.
Dywedodd Llywodraeth yr Alban eu bod yn frwd yn erbyn y cynlluniau ac y byddan nhw’n annog Senedd yr Alban i’w hatal, gan fod hawliau dynol “wrth galon” Deddf yr Alban.
‘Cydraddoldeb’
Wrth ymateb i’r newydd heddiw dywedodd Leanne Wood: “Mae pleidiau San Steffan wedi bod yn clochdar am drin Cymru a’r Alban yn gyfartal.
“Ond heb ail-gydbwyso grym yn y DG ar frys, bydd yn rhaid i Gymru ddal i ddioddef yn sgil penderfyniadau San Steffan, tra bydd yr Albanwyr yn cael dewis eithrio am fod ganddynt eu system gyfreithiol eu hunain.
“Mae Plaid Cymru yn dadlau bod yn rhaid i ni symud rhag blaen at gydraddoldeb cyfrifoldebau rhwng cenhedloedd y DG. Allwn ni ddim caniatáu sefyllfa lle mae Cymru byth a hefyd yn gorfod dal i fyny gyda phawb arall.
“Byddai’n hollol annerbyniol i ddinasyddion Cymru gael eu hamddifadu o hawliau sylfaenol sydd yn rhan o’r Ddeddf Hawliau Dynol gan lywodraeth na chafodd ei hethol gan bobl Cymru i ddechrau.”