Mae dyn wedi cael ei gyhuddo o lofruddio ar ôl i gorff dynes gael ei ddarganfod, meddai’r heddlu.
Cafwyd hyd i gorff Catherine McDonald, 57, mewn tŷ yn Hilly Park, Norton Fitzwarren yng Ngwlad yr Haf ddydd Mawrth.
Dywed yr heddlu bod archwiliad post mortem yn dangos ei bod wedi marw ar ôl cael ei thrywanu a’i mygu.
Cafodd Alex McDonald, 27, o Hilly Park, Norton Fitzwarren ei arestio ar amheuaeth o’i llofruddio ddydd Mercher.
Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Avon a Gwlad yr Haf bod McDonald wedi cael ei gyhuddo o lofruddio dros nos.
Fe fydd yn mynd gerbron ynadon Taunton y bore ma.