Mae dau ddyn o Burma sydd wedi cyfaddef iddyn nhw ladd y Prydeinwyr Hannah Witheridge a David Miller yng Ngwlad Thai wedi ail-greu’r ymosodiad ar gyfer yr heddlu.

Dywedodd heddlu’r wlad fod y ddau ddyn 21 oed, Saw a Win, wedi cyfaddef mai nhw lofruddiodd y ddau Brydeiniwr oedd ar wyliau yn y wlad.

Ar ôl cael eu dangos mewn cynhadledd i’r wasg, fe fu’r ddau sydd dan amheuaeth o lofruddiaeth yn ail-greu’r ymosodiad wrth i’r heddlu gymryd nodiadau – rhywbeth maen nhw’n ei ddweud sydd yn arfer cyffredin yng Ngwlad Thai.

Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu fod y ddau wedi’u cyhuddo o dair trosedd: cynllwynio i ladd, cynllwynio i dreisio, a lladrata.

Mae heddlu Gwlad Thai wedi dweud fod tystiolaeth DNA, CCTV ymysg pethau eraill i gefnogi’r achos yn erbyn y ddau ddyn o Burma, sydd wedi cyfaddef treisio a lladd Hannah Witheridge, 23, a lladd David Miller, 24.

Fe ddarganfuwyd cyrff y ddau ohonyn nhw ar draeth ar ynys Koh Tao ar 15 Medi.

Mae heddlu Gwlad Thai wedi bod yn awyddus i bwysleisio faint o ymdrech maen nhw wedi’i roi i ddal y llofruddion, gyda llawer yn poeni y gallai hyn fod yn ergyd bellach i ddiwydiant twristiaeth y wlad.