Kuntal Patel Llun: Elizabeth Cook
Mae dynes wedi cael ei chanfod yn ddieuog o geisio llofruddio’i mam fel rhan o gynllwyn a gafodd ei ysbrydoli gan y rhaglen deledu ‘Breaking Bad’.

Roedd Kuntal Patel, 37, wedi’i chyhuddo o roi cyffur gwenwynig mewn diod o Diet Coke a’i roi i’w mam gan ei bod hi wedi gwrthod rhoi ei sêl bendith i’w phriodas â’i dyweddi.

Honnodd yr erlyniad fod Patel wedi dyfeisio’r cynllwyn gan ei bod hi’n gaeth i’r rhaglen deledu a bod yr un cynllwyn wedi cael ei ddarlledu.

Cyfaddefodd Patel fod ganddi ffantasi ynghylch lladd ei mam, gan fod ei mam wedi’i bwlio hi a’i churo.

Dywedodd wrth Lys y Goron Southwark ei bod hi am gyflawni hunanladdiad a’i bod hi wedi troi at y we i chwilio am wenwyn.

Cyfaddefodd ei bod hi wedi ceisio prynu’r gwenwyn abrin gan Americanwr.

Ond cafwyd hi’n ddieuog o geisio llofruddio’i mam.

Roedd hi eisoes wedi pledio’n euog i ddau gyhuddiad o geisio prynu cemegion biolegol neu gyffur.

Cafodd ei chadw yn y ddalfa tan y bydd hi’n cael ei dedfrydu ar Dachwedd 7.