Mae mwy na 1,400 o bobol wedi arwyddo deiseb sy’n galw am ddiogelu gwasanaeth cerdd Rhondda Cynon Taf, gwasanaeth sy’n hyfforddi mwy na 3,500 o blant o bob oed.

Yn ôl y cyfarwyddwr cerdd, Nathan James Dearden, o Donyrefail, a oedd wedi dechrau’r ddeiseb, mae Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi datgelu ei fod yn ystyried dod a’r gwasanaeth i ben er mwyn gallu mynd i’r afael a’r toriadau ariannol o £30 miliwn sy’n eu hwynebu’r flwyddyn nesaf.

Ond mae’r 1,437 o bobol sydd wedi arwyddo’r ddeiseb ar-lein yn credu fod y gwasanaeth yn rhy werthfawr i’w golli ac o’r farn ei fod yn fwy na dim ond “gwasanaeth moethus, sy’n ychwanegol,” i’r pynciau craidd mewn ysgolion.

‘Cosbi’

Dywedodd Nathan Dearden fod mwy na 3,500 o blant yn cael budd o Wasanaeth Cerdd Rhondda Cynon Taf, sy’n hyfforddi plant mewn ysgolion cynradd ac uwchradd yn rhai o ardaloedd fwyaf difreintiedig y Cymoedd.

“Rydym yn deall bod y sefyllfa ariannol yn un anodd, ond rydym wedi blino ar weld gwasanaethau cerdd yn cael eu cosbi ac yn cael eu trin fel gwasanaeth ‘moethus’ gan yr anwybodus.”

Ychwanegodd: “Nid yw’r Gwasanaeth Cerdd yn rhywbeth moethus. Mae plant angen cerddoriaeth.
“Mae’n darparu cyfleoedd proffesiynol ar lwyfannu gorau Cymru ac yn eu galluogi i ddianc rhag problemau cymdeithasol yn rhai o ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru.

“Os ydym ni’n galw ein hunain yng ‘Ngwald y Gan’ pam ein bod ni’n parhau i ddod a’n gwasanaethau cerdd i ben?”

Mae golwg360 wedi gofyn am ymateb Cyngor Rhondda Cynon Taf.