Llys y Goron Southwark
Mae cyn-blismon Heddlu Llundain wedi pledio’n ddi-euog i gyhuddiadau o ymosod yn anweddus ar garcharor gwrywaidd ac o gamymddwyn mewn swydd gyhoeddus.

Yn Llys y Goron Southwark, clywodd Gurpal Virdi, 55, y bydd yn sefyll ei brawf fis Gorffennaf nesaf.

Honnir i’r troseddau ddigwydd yn 1986, ac mae e wedi’i gyhuddo o ymosod yn anweddus ar ddyn tra ei fod e yn y ddalfa.

Cafodd Virdi ei ryddhau ar fechnïaeth.