Prifysgol Caerdydd
Fe fydd Prifysgol Caerdydd yn cyhoeddi cynlluniau i adeiladu pedair canolfan ymchwil newydd gwerth £300 miliwn, gyda phwyslais ar roi hwb i economi Cymru.

Mae’r brifysgol eisiau trawsnewid hen safle diwydiannol yn Cathays yn lleoliad i gyfleusterau modern o’r radd flaenaf er mwyn gwneud gwaith ymchwil arloesol ar faterion byd-eang.

Mae parc ymchwil gwyddorau cymdeithasol yn rhan o’r cynlluniau, ac yn ôl y brifysgol dyma fyddai’r datblygiad cyntaf o’i fath yn y byd.

Mae gweddill y cynlluniau’n cynnwys Canolfan Arloesi, Canolfan fentergarwch, a safle i ddatblygu gwaith academaidd ar gyfer defnydd ymarferol.

“Rydym yn bwriadu sefydlu’r unig Barc Ymchwil Gwyddorau Cymdeithasol yn y byd fyddai’n trosi ymchwil blaengar yn ddatrysiadau arloesol ac effeithiol i broblemau cymdeithasol ar draws y byd,” meddai’r brifysgol.

Neges i’r byd

Bydd y cynlluniau yn cael eu cyhoeddi gan yr Athro Colin Riordan yn y brifysgol yn ddiweddarach heddiw.

Dywedodd: “Mae hyrwyddo Cymru fel y prif leoliad ar gyfer swyddi a chreu cyfoeth, yn ffynhonnell ar gyfer graddedigion medrus a chanolfan arloesi a masnach sy’n ffynnu, yn neges bwysig i’w rhoi i’r gymuned ryngwladol,” meddai’r Athro Colin Riordan.
.