Casia Wiliam, Gwennan Evans, Gruffudd Owen, a Llŷr Gwyn Lewis
Mae hi’n Ddiwrnod Cenedlaethol Barddoniaeth heddiw, a phedwar bardd ifanc wedi cychwyn ar eu tasg o geisio cyfansoddi cant o gerddi mewn 24 awr.

Dyma’r trydydd tro i’r digwyddiad Her 100 Cerdd gael ei gynnal gan Lenyddiaeth Cymru gyda’r ddau dîm blaenorol o feirdd yn llwyddo i gyflawni’r her eiliadau yn unig cyn hanner nos.

Casia Wiliam o Nefyn , Gwennan Evans o Ddyffryn Cothi, Gruffudd Owen o Bwllheli, a Llŷr Gwyn Lewis o Gaernarfon yw’r beirdd sydd wedi cytuno i ymgymryd â’r dasg eleni.

Cyn dechrau ar yr her, dywedodd Gwennan Evans: “Mae’r pedwar ohonom yn tueddu i ragori ar dasgau gwahanol yn y Talwrn; Llŷr ar y cywydd, Casia ar y delyneg, Gruffudd ar yr englyn a finnau ar y gân.

“Bydd hi’n ddiddorol gweld a fydd y cydbwysedd yn newid yn yr Her 100 Cerdd.”

Mae’r cerddi ar gael i’w gweld ar wefan Llenyddiaeth Cymru: www.her100cerdd.co.uk