Mae system newydd y DVLA o drethu ceir a gafodd ei chyflwyno am hanner nos neithiwr wedi achosi cryn drafferthion i yrwyr sydd am adnewyddu eu treth.

O heddiw ymlaen, ni fydd yn rhaid i yrwyr ddangos disgen bapur yn ffenest eu ceir.

Yn hytrach, fe fydd modd darganfod a oes gan yrwyr dreth trwy wirio rhif cofrestru’r car ar system ganolog y DVLA.

Ond wrth i yrwyr fynd ati adnewyddu eu treth neithiwr a’r bore ma, doedd gwefan y DVLA ddim yn gweithio oherwydd nifer uchel o ddefnyddwyr yn mewngofnodi ar yr un pryd, a doedden nhw ddim yn gallu ymdopi â’r nifer uchel o alwadau ffôn.

Mae’r DVLA wedi cynghori pobol i fynd i’r swyddfa bost leol yn hytrach na throi atyn nhw tra eu bod nhw’n datrys y broblem, ac maen nhw wedi ymddiheuro.