Mae Undeb Rygbi Cymru (URC) wedi cyhoeddi ei bod wedi buddsoddi mwy nag erioed yn y gêm eleni.
Yn ei adroddiad blynyddol ar gyfer 2014, dywedodd yr undeb ei fod yn gwario £22.5 miliwn ar bob lefel o’r gêm – sy’n gynnydd o’r £22.1 miliwn gafodd ei wario yn 2013.
Dywedodd prif weithredwr y corff, Roger Lewis fod buddsoddiad mor fawr yn dangos fod yr undeb yn “benderfynol o gynnal statws rygbi fel gêm genedlaethol Cymru.”
“Bydd rygbi ysgolion hefyd yn cael ei hybu gan swyddogion rygbi a ariannir gan URC,” ychwanegodd.
Economi
Yn yr adroddiad, dywedwyd hefyd bod Stadiwm y Mileniwm yng Nghaerdydd, cartref yr undeb, yn cyfrannu £130miliwn at economi’r wlad ac yn cefnogi 2,500 o swyddi llawn amser.
“Mae’n rhaid i ni ail-fuddsoddi mewn llwyddiant ar y lefel broffesiynol a rhyngwladol oherwydd mai tîm llwyddiannus Cymru yw’r peiriant ariannol sy’n gyrru ein busnes,” meddai Roger Lewis.
Ychwanegodd Cadeirydd yr undeb, David Pickering: “Mae canlyniadau ariannol y flwyddyn ddiwethaf yn profi fod busnes rygbi yng Nghymru mewn cyflwr da iawn.”